|
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog aelodau o'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus ar ôl cyfres o alwadau ffôn twyllodrus gael eu riportio yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae tua 12 digwyddiad wedi’u cofnodi yn ystod y tair wythnos ddiwethaf, yn ymwneud â thwyllwr yn smalio bod yn swyddogion o’r Heddlu Metropolitan. Mae’r sgam yn ymwneud â galwyr yn honni bod gweithgaredd amheus ar gerdyn banc y dioddefwr, ac mi fydd cludwr yn cael ei anfon er mwyn ei gasglu.Yn ffodus, ni wnaeth yr unigolion o dan sylw roi eu cardiau i’r cludwr, ac mi wnaethon nhw riportio’r digwyddiadau i’r heddlu.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Iolo Edwards, o Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru: “Mi hoffem ni dawelu meddwl y cyhoedd na fyddai’r heddlu byth yn gofyn am eich manylion banc dros y ffôn, na chwaith yn anfon cludwr i nôl eich cardiau banc. “Os ‘da chi’n cael galwad fel hyn, rhowch y ffôn i lawr ar unwaith, a cysylltwch efo 101 er mwyn gwirio’i gyfreithlondeb. “Mi hoffem ni atgoffa pawb i fod yn wyliadwrus ynglŷn â’r math hwn o weithgaredd twyllodrus, ac i riportio unrhyw alwadau amheus.”
Mae cyngor a chanllawiau ynglŷn ag osgoi troseddau sy’n ymwneud â thwyll ar gael ar ein gwefan ni: Cyngor ynglŷn â thwyll | Heddlu Gogledd Cymru
#SeiberDdiogelHGC 
|